Cyhoeddwyd gyntaf gan Gymdeithas Gwenynen Gwent, Awst 2016 Arglwyddes Llanofer oedd un o gyfranwyr pwysicaf diwylliant Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac un o gymeriadau mwyaf diddorol y cyfnod. Pwrpas y llyfr hwn yw sbarduno ddiddordeb mewn Gwenynen Gwent, ei hunaniaeth gymhleth a’i gwaith droes ei hoes sef creu noddfa ar gyfer fersiwn hi o ddiwylliant Cymreig. Rhagair Mae’n bleser ysgrifennu’r rhagair i ‘Pwy oedd Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent?’ gan Celyn Gurden-Williams. Cyfarfûm â Celyn am y tro cyntaf yn 2007 pan ysgrifennodd ei thraethawd ymchwil ôl-radd hynod ddiddorol “Lady Llanover and the Creation of a Welsh Cultural Utopia”. A minnau’n byw yn Llanofer, o’m cwmpas ym mhob man mae pethau sy’n f’atgoffa o benderfyniad fy hen-hen-hen-hen-fam-gu i gadw diwylliant a thraddodiadau Cymru’n fyw. Gan ddefnyddio dyfyniadau o’r cyfnod, mae Celyn wedi ysgrifennu llyfryn difyr ac addysgiadol iawn. Ynddo mae’n disgrifio penderfyniad Gwenynen Gwent i hybu’r Gymraeg a gwisgoedd, cerddoriaeth ac arferion Cymru ymysg ei ffrindiau, ei thenantiaid a’i gweision yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd gweddill y De’n troi tuag at y Saesneg fel eu hiaith gyntaf a mewnforion tramor megis cotwm o India a’r delyn bedal Eidalaidd. Gobeithio y cewch eich cyfareddu gymaint â minnau gan yr hanes hwn am Wenynen Gwent, ei breuddwyd ddiwylliannol o Gymreictod a’r adweithiau a enynnodd wrth ei gwireddu. Elizabeth Murray |
|
Pwy oedd Arglwyddes Llanofer, 'Gwenynen Gwent'? Ar gael oddi wrth:- Amgueddfa Y Fenni Ffôn: 01873 854282 Neu Creighton's Collection siop ar-lein - £5 + cludiant Neu Cysylltwch â Gymdeithas Gwenynen Gwent: Robin Davies Ffôn: 01594 563172 / 077721 97291 E-bost: robinbronllys@yahoo.com |
|
Diweddarwyd y dudalen hon ar 28-08-2016 |