Rhag
-Hysbysiad Dydd Sadwrn 14 Hydref 2006 |
|
CANOLFAN Y PRIORDY, Eglwys y Santes Fair, Y FENNI | |
Ysgol
Undydd
|
|
Pris: £12 (Aelodau Cymdeithas Gwenynen Gwent) £15 (heb fod yn aelod) | |
Sian Rhiannon Williams: | |
Derbyniodd Sian Rhiannon Williams ei haddysg yn gyfangwbl yng Nghymru, yn gyntaf yn Ysgol Gymraeg Rhymni ac Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac wedi hynny ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Hanes. Parhaodd i astudio yn Aberystwyth, a’i gwaith ymchwil ar hanes y Gymraeg yng Ngwent yn arwain at gyhoeddi ei llyfr Oes y Byd i’r Iaith Gymraeg, sef archwiliad i safle’r iaith Gymraeg yng nghymdeithas ddiwydiannol Sir Fynwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Wedi gadael y Brifysgol aeth yn gynhyrchydd rhaglenni gyda BBC Cymru tan iddi gael ei hapwyntio’n ddarlithydd yn Athrofa Prifysgol Cymru (UWIC), Caerdydd. Yn ddiweddarach daeth yn Uwch-Ddarlithydd, ac ar hyn o bryd mae’n gyfawyddwraig y Raglen Hanes Addysg. Prif ddiddordebau Sian yw hanes iaith a hanes menywod mewn cymdeithas. Fe fu ganddi ddiddordeb ers tro byd yn yr Arglwyddes Coffin-Greenly (1751-1843), a drigai yn Titley Court, Swydd Henffordd. Siaradai Gymraeg, mabwysiadodd yr enw barddol Llwydlas ac roedd yn fawr ei dylanwad ar Gwenynen Gwent, ac yn aelod mynwesol o gylch Llanofer. Bu’n destun erthygl gan Sian Rhiannon Williams yn Cof Cenedl XVI, sef Llwydlas, Gwenynen Gwent a Dadeni Diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda Carol White yn gyd-awdur, ysgrifennodd y llyfr 'Struggle or Starve – women’s lives in the South Wales Valleys between the two world wars' (1988) Teitl darlith Sian Rhiannon Williams yw Llwydlas a Gwenynen Gwent |
|
Professor Emeritus Prys Morgan: | |
Ganwyd Prys Morgan yng Nghaerdydd, ond gall olrhain ei achau yn ôl i Langyfelach ym 1600. Coleg Sant Ioan, Rhydychen fu ei fagwrfa fel hanesydd, ond treuliodd y cwbl o’i yrfa academaidd ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe tan ei ymddeoliad diweddar pan ddaeth yn Athro Emeritws. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Uwch-Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth. Bu’n aelod gwerthfawr a blaenllaw o wahanol gyrff cyhoeddus, megis Cadw a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac ar hyn o bryd ef yw Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Eleni, ef oedd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Mae gwaith llenyddol Prys Morgan yn adlewyrchu maes eang ei ddiddordebau, o’r llyfr a gyd-ysgrifennodd gyda’i dad, T J Morgan ar gyfenwau Cymreig (1985) i Ddadeni’r Ddeunawfed Ganrif (1981), Brâd y Llyfrau Gleision (gol. 1991), Wales – The Shaping of a Nation (1991), Prifysgol Cymru 1939-1993 (1997), A Bible for Wales - Beibl i Gymru (1988) a’r Tempus History of Wales (2000). Gyda Madeleine Gray, ef yw cyd-olygydd y Gwent County History, cyf.3 a gyhoeddir yn 2007. Mae ei astudiaeth gwirioneddol gyfareddol o gyfieithad William Morgan o’r Beibl i’r Gymraeg (1588) ac a ddigideiddiwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol, i’w gweld a’i darllen ar y ryngrwyd (www.llgc.org.uk/drych). Teitl darlith Prys Morgan yw Carnhuanawc a Gwenynen Gwent |
|
Michael Freeman: | |
Llencyn pedair-ar-ddeg mlwydd oed oedd Michael Freeman pan ddechreuodd ymddiddori o ddifrif mewn hanes leol, a phan ymunodd â’i gloddfa archeolegol gyntaf i ddinas Rufeinig Verulamium, St Albans. Yn ystod y pum mlynedd nesaf gweithiodd ar lawer i gloddfa archeolegol arall. Bu’n fyfyriwr yn adran Archeoleg Prisfysgol Caerdydd, ac wedi cwblháu ei astudiaethau aeth i Sir Benfro fel cyfarwyddwr cynorthwyol amgueddfeydd y sir. Ym 1984 fe’i apwyntiwyd yn is-guradur Amgueddfa Ceredigion, ac ym 1990 dilynodd Dr John Owen fel curadur. Yn ddiweddar, cyhoeddodd lyfr ar hanes Aberystwyth, a hynny wedi ymchwil helaeth i brintiau a lluniau o’r dref, ynghyd ag ymchwil gwreiddiol arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol (sydd o fewn deng munud o daith cerdded o’i gartref). Ei brif ddiddordeb ar hyn o bryd yw sut y portreadir Cymru’n gyffredinol, ac Aberystwyth yn arbennig, gan ymwelwyr â Chymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Golygodd hyn astudiaeth drylwyr o’r nifer helaeth o luniau, dyddiaduron ac adroddiadau a adawyd gan yr amrywiol ymwelwyr. Mae hefyd yn ymchwilio i darddiad a datblygiad y ‘Wisg Genedlaethol Gymreig’ ar gyfer arddangosfa a gynhelir ym 2008 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Ceredigion. Mae ei astudiaeth o’r Het Gymreig (y mae’n syndod y cyhoeddwyd cyn lleied amdani) yn dechrau datgelu llawer i chwedl ynglyn â’i tharddiad, ei gwneuthuriad a’i datblygiad. Ei fwriad yw cyhoeddi llawer o’i waith presennol ar y ryngrwyd, a hynny er mwyn symbylu pobl eraill i gyfrannu ac i ymuno yn yr ymchwil, yn arbennig felly o safbwynt safle’r Het Gymreig fel eicon o Gymru, yn y gorffennol yn ogystal ag yn y presennol. Teitl darlith Michael Freeman yw Yr Het Gymreig. Fe’i traddodir yn Saesneg |
|
Morfydd Owen: | |
Derbyniodd Morfydd Owen ei haddysg yn Ysgol Lewis i Ferched, Hengoed, Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Girton, Caergrawnt. Wedi cyfnod yn astudio yn Nulyn, fe’i hapwyntiwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle treuliodd bedair mlynedd ar hugain, cyn symud oddiyno i Aberystwyth i’r Ganolfan Uwch-Efrydiau Cymreig a Cheltaidd. Er iddi ymddeol erbyn hyn, mae’n para fel Uwch-Gymrawd Mygedol yn y Ganolfan. Derbyniodd radd D.Litt er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i astudiaethau canol oesol Cymreig. Gyda T M Charles-Edwards a Paul Russell, golygodd The Welsh King and his Court – cyfrol a adolygwyd fel ‘cyfraniad o wir bwys i astudiaethau Cymreig y canol oesoedd canolog’. Tra’n gweithio yn y Ganolfan Uwch-Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, cyfrannodd at gyfres ‘Beirdd y Tywysogion’. Diddordebau academaidd Morfydd Owen yw y Cyfreithiau Cymreig, testunau meddygol Cymraeg yr oesoedd canol, a barddoniaeth lys Gymraeg , a’i diddordebau er difyrrwch yn cynnwys caneuon a thraddodiadau gwerin Morgannwg. Dewisodd y rhain fel pwnc ei darlith lywyddol i Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, dan y teitl Cynghrair Gwyddelig-Gymreig: T M Crofton-Croker a Maria Jane Williams. Ym 1827 bu’r ddau ohonynt yn cyfnewid alawon Cymreig a Gwyddelig, ac ym 1828 cyhoeddodd Crofton-Croker gasgliad Maria Jane Williams o straeon tylwyth teg o Gwm Nedd, a’i ategu’n atodiad i’w lyfr Fairy Legends and Traditions of the South of Ireland. Teitl darlith Morfydd E. Owen yw Gwenynen Gwent, Maria Jane Williams a’r Ancient Airs of Gwent and Morgannwg. Traddodir y ddarlith yn Saesneg. |
|
Diweddarwyd y dudalen hon ar 15-09-2006 |