Switch to English version
Rhaglen 2024
 
 
Dydd Llun 6ed Mai 2024 - 10yb i 4yh
Neuadd Bentref Llan-ffwyst, Lôn yr Eglwys, Llan-ffwyst, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Emily Harris
Rita Schindler
Eira Lynn Jones
Emily Harris
Rita Schindler
Eira Lynn Jones

Ymunwch gyda ni am ddiwrnod cyffrous o diwtora grŵp gyda thelynorion proffesiynol!

Dewiswch o’r dosbarthiadau canlynol:

● Sesiwn Blasu i Ddechreuwyr Pur gydag Emily
Amser: 11:15-12:15yh neu 12:45-13:45yh
Pris: £20

●Dosbarth Sylfaenol i Ganolradd (hyd at radd 3) gydag Eira a Rita
Amser: 10yb i 4yh
Pris: £40

● Dosbarth Uwch (gradd 4+) gydag Eira a Rita
Amser: 10yb i 4yh
Pris: £40

● Croeso i westeion ymuno yn y cyngerdd a berfformir gan y
cyfranogwyr a thiwtoriaid am 3:30yh.

● Rhoddir Ysgoloriaeth Ann Griffiths i’r cyfranogwr neu gyfranogwyr mwyaf addawol 18 oed neu iau.

I gofrestru sganiwch y côd QR neu ewch i:
QR Code
Os na allwch ddarllen y cod QR cliciwch ar y ddelwedd cod
neu lawrlwythwch ffeiliau PDF isod,
neu ewch i: www.emilyharrisharp.com

I gael mwy o wybodaeth cyslltwch â:
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
neu
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 07772 197291

** PDFs **
Ffurflen gais -- Ffurflen gydsynio -- Rhaglen (TBA) -- Cynllun llawr
 
Rhaglen 2023
 
 
Dydd Llun 1af Mai 2023 - 10yb i 4yh
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Amy Turk Emily Harris Claire Jones
Amy Turk
Emily Harris
Claire Jones

Diwrnod o diwtora grŵp dan arweiniad telynorion proffesiynol!

Cofrestrwch ar gyfer un o’r dosbarthiadau canlynol:

● Sesiwn blasu i ddechreuwyr pur gyda Emily Harris
11:15-12:15yh neu 12:45-13:45yh £20

●Dosbarth Sylfaenol i Ganolradd (hyd at radd 3) gyda
Amy Turk a Claire Jones
(10yb i 4yh) £40

● Dosbarth Uwch (gradd 4+) gyda Amy Turk a Claire Jones
(10yb i 4yh) £40

● Croeso i’r holl westeion ddod i’r gyngerdd am 3:30yh.

● Caiff Ysgoloriaeth Ann Griffiths ei dyfarnu i’r cyfranogwr(wyr) mwyaf addawol dan 18 oed.

Cliciwch yma i gofrestru ar-lein
neu i lawrlwytho ffeiliau PDF gweler isod


I gael mwy o wybodaeth cyslltwch â:
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
neu
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 07772 197291

** PDFs **
Ffurflen gais/Ffurflen gydsynio -- Rhaglen -- Cynllun llawr
 
Rhaglen 2022
 
 
Dydd Llun 2 Mai 2022 - 10y.b. tan 4y.h.
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Ben Creighton Griffiths Alis Huws Emily Harris
Ben Creighton Griffiths
Alis Huws
Telynores Swyddogol
EUB Tywysog Cymru
Emily Harris

Cyfle gwych i gymryd rhan mewn hyfforddiant grŵp gan delynorion profiadol mewn amgylchedd gweithdy.

● Sesiynau blasu i ddechreuwyr; i bobl nad ydynt wedi canu’r delyn o’r blaen neu sydd newydd ddechrau. Sesiynau am 10am, 11.15am, 12.45pm a 2pm. (Darperir telynau) £25

● Sesiwn Canolradd; gradd 1-3; £35 (10am i 4pm)

● Sesiwn Uwch; gradd 4+; £35 (10am i 4pm)

● Bydd dwy egwyl goffi fer ac egwyl ginio ar gyfer y sesiynau canolradd ac uwch.

● Cyngerdd am 3.30pm; mae croeso i westeion.

● Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael pecyn gwybodaeth llawn.

● Caiff Ysgoloriaeth Ann Griffiths ei dyfarnu gan y tiwtoriaid i un/rhai addas sy’n
cymryd rhan yn ystod y diwrnod.

Bydd yn ofynnol i bawb sy’n cymryd rhan gydymffurfio â’r cyngor diweddaraf o ran COVID.
Gofynnir i’r bobl sy’n cymryd rhan ddod â’u pecyn cinio eu hunain.
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn y dosbarthiadau canolradd ac uwch ddod â’i delyn, stôl a stand cerddoriaeth ei hun.

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
neu
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 07772 197291

** PDFs **
Ffurflen gais -- Ffurflen gydsynio -- Rhaglen -- Cynllun llawr
 
Rhaglen 2021
 
Nos Sadwrn 13 Tachwedd 2021 am 6pm
Yn Eglwys Sant Cadog, Ffordd Cas-gwent, Rhaglan, Sir Fynwy

Cymdeithas Gwenynen Gwent
yn dathlu bywyd a champau cerddorol

Ann Griffiths

Photo of Ann Griffiths
Ann Griffiths
 

Cerddoriaeth ar y delyn deires a’r delyn bedal yn cael ei pherfformio gan
Emily Harris ac Angharad Evans Young
Gan gynnwys perfformiad gan wyres Ann
Jessica Ann Davies

Mynediad trwy docyn yn unig £10 (£5 i rai o dan 16 oed) ar gael gan:-
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 077721 97291

Aiff yr holl elw i Gronfa Ysgoloriaeth Ann Griffiths
Cymdeithas Gwenynen Gwent i gefnogi telynorion ifanc ac addawol.


Bydd yn ofynnol i bawb sy’n bresennol gydymffurfio â chyngor diweddaraf y llywodraeth ar COVID-19. Mae’n bosibl y bydd argymhelliad i wneud hunan-brawf llif unffordd gartref ymlaen llaw. Mae’n ofynnol i’r Gymdeithas gofnodi enwau a manylion cyswllt pawb sy’n dod i’r gyngerdd a chedwir y data am 21 o ddyddiau. Os caiff y gyngerdd ei chanslo rhoddir ad-daliad i ddeiliaid tocynnau neu gallant roi’r taliadau am eu tocynnau i Gronfa Ysgoloriaeth Ann Griffiths.

www.ladyllanover.org.uk / www.emilyharrisharp.com

 
Dydd Sadwrn y 30ain o Hydref 2021 - 10y.b. tan 4y.h.
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Harriet Earis Emily Harris Manaon Browning
Marged Hall
Emily Harris
Manon Browning

Mwynhewch y tonig o wneud cerddoriaeth fyw gyda'i gilydd eto yn ddiogel


● Sesiynau ar gyfer y rhai sy'n dechrau o'r dechrau
am 10am, 11.15am,12.30pm a 1.45pm

● Bydd y niferoedd yn gyfyngedig. (Bydd telynau ar gael) £25

● Sesiynau Canolradd; gradd 1-3; £35 (10am - 4pm)

● Sesiynau Uwch; gradd 4+; £35 (10am - 4pm)

● Bydd dwy egwyl goffi byr ac egwyl ginio ar gyfer sesiynau
Canolradd ac Uwch.

● Cyngerdd am 3.30pm; Croeso i westeion trwy archebu ymlaen llaw.

● Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn derbyn pecyn gwybodaeth llawn.

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
neu
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 077721 97291

 
Rhaglen 2019
 
Dydd Llun 7fed o Fai 2018 - 10y.b. tan 4y.h.
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Harriet Earis Manaon Browning Emily Harris
Marged Hall
Manon Browning
Emily Harris

Diwrnod i ganu'r Delyn

Sesiynau ar gyfer y rhai sy’n dechrau o’r dechrau,
ôl-ddechreuwyr i ganolradd ac uwch.

Dewch â’ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw.

Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol. Cyngerdd byr
am 3.15y.h. gan y tiwtoriaid a’r rhai sy’n cymryd rhan.

Croeso i bawb. Te a choffi am ddim trwy’r dydd

Dewch â phecyn bwyd i ginio.

Ôl-ddechreuwyr i ganolradd ac uwch: £25 am y diwrnod cyfan.
(£20 i Aelodau a’r rhai mewn addysg lawn amser)
Y rhai sy’n dechrau o’r dechrau £10 am sesiwn
(10.15y.b. - 12.15y.h.) neu (1.15y.h. - 3.15y.h.)

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Emily Harris - emily.harris.harp@gmail.com - 07512 601730
neu
Robin Davies - robindavies170@gmail.com - 077721 97291

 
Rhaglen 2018
 
Dydd Llun 7fed o Fai 2018 - 10y.b. tan 4y.h.
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Harriet Earis
Emily Harris
Harriet Earis
Emily harris

Diwrnod i ganu'r Delyn

Sesiynau ar gyfer y rhai sy'n dechrau o'r dechrau
y rhai sy'n gwella a'r rhai mwy profiadol

Dewch â'ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw

Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol - Cyngerdd byr
gan y tiwtoriaid ar ddiwedd y dydd

Te a choffi am ddim trwy'r dydd - Dewch â'ch pecyn bwyd.

Y rhai sy'n gwella a'r rhai mwy profiadol: £25 am y diwrnod cyfan
(£20 i Aelodau a'r rhai mewn addysg lawn amser)

Yrhai sydd wedi dysgu am flwyddyn neu ddwy:
£10 at gyfer sesiwn y bore (10 y.b.-1 y.h.)
Yrhai sy'n dechrau o'r dechrau £5 ar gyfer sesiwn prynhawn (1.45 y.h.-3 y.h.)

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Gill Madley 01873 812318 gill@madley.org
neu
Robin Davies 01594 563172 robinbronllys@yahoo.com

 
Rhaglen 2017
 
Dydd Sadwrn 23 Medi 2017 10yb - 4 yh
Neuadd Capel y Methodistiaid, Stryd y Castell, Y Fenni NP7 5EH

Ysgol Undydd

Ysgol Undydd

Gwenyn Prysur
Dathlu Crefftau Hen a Newydd

Cyflwyniadau gan:
Michael Freeman, cyn Guradur Amgueddfa Ceredigion
Cymdeithas Defaid Duon Cymru
Jen Jones, Canolfan Cwiltiau Cymru, Llambed
Deborah Edwards, gemydd a gof arian

2.30yh: Taith Gerdded trwy Hanes
Y Fenni, yng nghwmni
Dr Elin Jones

Pris: £15 (£12 i aelodau'r Gymdeithas) i gynnwys coffi a the.
Ni ddarperir cinio, ond mae nifer o fwytai gerllaw.

Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Robin Davies - 01594 563172 / 077721 97291 / robinbronllys@yahoo.com
neu Elin Jones - 01443 816366 / 07796 706 205

 
Dydd Llun 1af o Fai 2017 - 10y.b. tan 4y.h.
Neuadd Llan-f fwyst, Lôn Eglwys, Y Fenni, NP7 9LP

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Robin Huw Bowen
Ben Creighton Griffiths
Robin Huw Bowen
Ben Creighton Griffiths

Diwrnod i ganu'r Delyn

Sesiynau ar gyfer y rhai sy’n dechrau o’r dechrau y rhai sy’n gwella
a'r rhai mwy profiadol
Dewch â’ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw

Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol
Cyngerdd byr gan y tiwtoriaid ar ddiwedd y dydd

Te a choffi am ddim trwy'r dydd
Dewch â'ch pecyn bwyd

£25 am y diwrnod cyfan (£20 i Aelodau a'r rhai mewn addysg lawn amser)
£5 i'r rhai sy'n dechrau ar gyfer sesiwn y bore neu sesiwn prynhawn.

Bydd Casgliad Creighton’s Collection yn cael ei arddangos gyda detholiad
eang o gerddoriaeth ddalen ar gyfer y delyn yn ogystal â chrynoddisgiau ar werth.

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Gill Madley 01873 812318 gill@madley.org
neu
Robin Davies 01594 563172 robinbronllys@yahoo.com

 
Rhaglen 2016
 
Cyhoeddwyd gyntaf gan Gymdeithas Gwenynen Gwent
Awst 2016
Front Cover
Pwy oedd Arglwyddes Llanofer, 'Gwenynen Gwent'?
Celyn Gurden-Williams
 
Digwyddiadau a drefnir gan y Gymdeithas
yn ystod Wythnos yr Eisteddfod

Ystâd Llanofer

Trwy ganiatâd caredig Mrs Elizabeth Murray
Mae'r gerddi ar agor 2-5pm - Tâl mynediad £5
Bydd arwyddion i ddangos ble y caniateir cerdded
Mae mynediad i'r digwyddiadau isod (ac eithrio'r Noson Gala)
am ddim i bawb sydd wedi talu i ddod i'r ardd.
Y gwasanaeth ar y Sul yn Gymraeg, digwyddiadau eraill yn Saesneg

-------------------

Dydd Sul 31ain Gorffennaf am 3pm
Gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Sant Bartholomeus, Llanofer. Croeso i bawb

Dydd Llun 1 af Awst am 2pm - Mick Petts
Arddangosiad creu cwrwgl. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys cyfle i weld un ar
waith ar lyn Llanofer (gan ddibynnu ar y tywydd)

Dydd Mawrth 2ail Awst am 2.30pm - Michael Freeman
Arglwyddes Llanofer a'r Wisg Gymreig Draddodiadol.

Dydd Mawrth 2ail Awst am 3.30pm - Penny Lewis (Culinary Cottage)
Bydd Penny Lewis yn sôn am ddiddordeb Arglwyddes Llanofer yn egwyddorion coginio
da ac yn trafod ryseitiau poblogaidd.

Dydd lau 4ydd Awst am 4pm - Sian Rhiannon Williams
"Llwydlas a Gwenynen Gwent: Arglwyddes Elisabeth Coffin Greenly a'i dylanwad
ar Arglwyddes Llanofer"

Dydd lau 4ydd Awst am 7pm
Yn ôl i Lanofer. Noson Gala gyda Robin Huw Bowen. Nifer gyfyngedig o docynnau am £25 ar gael gan gill@madley.org / 01873 812318

Dydd Gwener 5ed Awst am 3.30pm - Anthony Morgan
Anthony Morgan yn trafod tafodiaith y Wenhwyseg

Dydd Sadwrn 6ed Awst am 2pm - Helen Forder
Cyflwyniad ar fywyd ac amserau Arglwyddes Llanofer


Maes yr Eisteddfod

Dydd Llun 1af Awst 11.30am-12.30pm - Pabell y Cymdeithasau 2
Darlith gan Dr Celyn Gurden-Williams ar fywyd Arglwyddes Llanofer

Dydd Llun 1af Awst 3-4pm - Stondin Lie Hanes
Lansiad ffurfiol cyhoeddiad newydd gan Dr Celyn Gurden-Williams "Pwy Oedd Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent - Who was Lady Llanofer the "Bee of Gwent"?

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:-
Robin Davies 01594 563172 / 077721 97291 / robinbronllys@yahoo.com

 
Cymdeiths Gwenynen Gwent (PDF)
 
Dydd Sadwrn 23ain Ebrill

Noddir Harpathon yn Eglwys Sant Bartholomeus, Llanofer, Dydd Sadwrn 23ain Ebrill, gan Gymdeithas Gwenynen Gwent. Bydd pob elw yn mynd i apêl leol Eisteddfod Genedlaethol 2016

Harpathon
Rhaglen 2015
 
Dydd Sadwrn 24 Hydref 2015 - 10yb tan 4yh
Ysgol Sant Mihangel , Pen-y-Pound, Y Fenni, NP7 5UD

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Bethan Nia
Shelley Fairplay
Bethan Nia
Shelley Fairplay

Diwrnod i ganu'r Delyn
Sesiynau ar gyfer y rhai sy’n dechrau o’r dechrau y rhai sy’n gwella
a'r rhai mwy profiadol
Dewch â’ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw

Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol
Cyngerdd byr gan y tiwtoriaid ar ddiwedd y dydd

Te a choffi am ddim trwy'r dydd
Dewch â'ch pecyn bwyd neu fwytai lleol ar gael

£20 am y diwrnod cyfan (£15 i Aelodau a'r rhai mewn addysg lawn amser)
£5 i'r rhai sy'n dechrau ar gyfer sesiwn y bore

Noddir gan Cl ive Morley Harps

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Gill Madley 01873 812318 gill@madley.org
neu
Robin Davies 01594 563172 robinbronllys@yahoo.com

 
Ddydd Sul 29 Mawrth 2015 am 5.00 y.h.
“Ty Uchaf” Llanofer Sir Fynwy NP7 9EF 

Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 

Bydd y gerddi ar agor i'r cyhoedd (tâl £5) rhwng 2 a 5 y.h.
Bydd te a theisennau ar werth!

 

DIGWYDDIADAU GORFFENNOL
 
Dydd Sadwrn 26 Ebrill 2014 - 10yb tan 4yh
Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel Oakfield Drive, Crughywel, NP8 1DY

Diwrnod Dwylo ar y Delyn

Bethan Nia
Charlotte Poulter
Bethan Nia
Charlotte Poulter

Diwrnod i ganu'r Delyn
Sesiynau ar gyfer y rhai sy’n dechrau o’r dechrau y rhai sy’n gwella
a'r rhai mwy profiadol
Dewch â’ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw

Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol
Cyngerdd byr gan y tiwtoriaid ar ddiwedd y dydd

Te a choffi am ddim trwy'r dydd
Dewch â'ch pecyn bwyd neu fwytai lleol ar gael

£15 am y diwrnod cyfan (£10 i Aelodau a'r rhai mewn addysg lawn amser )
£5 i'r rhai sy'n dechrau ar gyfer sesiwn y bore

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Gill Madley 01873 812318 gill@madley.org
neu
Robin Davies 01594 563172 robinbronllys@yahoo.com


Ddydd Sul 30 Mawrth 2014 am 4.30 y.h.
“Ty Uchaf” Llanofer Sir Fynwy NP7 9EF 

Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol 

Bydd y gerddi ar agor i'r cyhoedd (tâl £5) rhwng 2 a 5 y.h.
Bydd te a theisennau ar werth!


Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2013 10 y.b. - 4 y.h.
Neuadd y Pentref Llanofer Llanofer, Sir Fynwy, NP7 9HB

Ysgol Undydd Llanofer

Dr. Celyn Gurden-Williams - Bywyd ar Ystad Llanofer (Saesneg)
Testun doethuriaeth Dr Gurden-Williams oedd Arglwyddes Llanofer a'i chyfraniad at y diwylliant Cymreig. Mae hi'n gweithio i Amgueddfa Beamish, Swydd Durham, fel Swyddog Datblygu Sgiliau.

Yr Athro David Thorne - Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (Cyflwyniad yn y Gymraeg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael)
Yn rhy aml mae enwau lleoedd Cymraeg hynafol yn cael eu newid yn ddifeddwl neu'n cael eu disodli gan enwau Saesneg, a'r hanes cyfoethog sydd yn gysylltiedig â'r enw yn mynd yn angof. Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru wedi cael grant yn ddiweddar i gasglu, cofnodi ar fapiau digidol a diogelu archif cenedlaethol dan brosiect arloesol "Gwarchod". Dewch i glywed sut y gallem ninnau gyfrannu.

Mick Petts - Gwneuthurwr Cwryglau (Saesneg)
Dewch i ddysgu sut mae adeiladu cwryglau wedi esblygu dros y canrifoedd. Bydd Mick Petts (a ddysgodd Matt Baker sut i adeiladu ei gwch ar raglen “Countryfile” y BBC) yn cyflwyno sgwrs â darluniau am hanes y cwch Cymreig eiconig hwn.

2 y.h.- 4 y.h. Bydd taith dywysedig Ystad Llanofer dan arweiniad Jeff Davies yn gorffen gydag ymweliad ag Eglwys Llanofer a diweddglo cerddorol.

Tâl £12 (aelodau £10) gan gynnwys brechdanau amser cinio.
Bydd te a choffi ar gael trwy'r dydd.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru cysylltwch â:
Robin Davies - 01594 563172
Frances Younson - 01633 868459
Maureen Probert   -01874 676204
neu
Rosie Arkell  -01873 852572


Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2013   7.00 y.h. - 10.30 y.h.
Neuadd Goffa Clearwell, GL16 8JS

"Twmpath Dawns"

Gwerinwyr GwentGwerinwyr Gwent
Mae Gwerinwyr Gwent yn dîm Dawnsio Gwerin sy'n hyrwyddo dawns a cherddoriaeth draddodiadol Gymreig
Caitlin Beth ProwleCaitlin Beth Prowle
Mae Caitlin yn 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Mae’n gantores hyfryd ac yn delynores fywiog sy’n cyfuno'r ddau dalent i berfformio cerddoriaeth yn Gymraeg i’w chyfeiliant ei hun.

Tocynnau £5 i oedolion, £2 i blant dan 11
Bwffe bys a bawd, Bar Talu, Raffl

Bydd elw'r noson yn mynd at Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Noddir y noson gan Robin Davies. Bydd ei deulu'n bresennol.

Tocynnau oddi wrth:-
Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch
Robin Davies 01594 563172 ac Anne Hoyal 01600 780001
www.cymdeithasgymraegtrefynwy.org.uk

Cymdeithas Gwenynen Gwent
Frances Younson 01633 868459 ac Rosie Arkell 01873 852572
www.gwenynengwent.org.uk


Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, Ddydd Sul 24 Mawrth 2013 am 1.y.h.,
“Ty Uchaf” Llanofer Sir Fynwy NP7 9EF  Gweler Taflen Cyhoeddusrwydd (PDF)

Bydd y gerddi ar agor i'r cyhoedd (tâl £5) rhwng 2 a 5 y.h.
Darperir adloniant gan “Gwerinwyr Gwent” yn ystod y prynhawn. Bydd te a theisennau ar werth!


Cyngerdd Telyn                
Nos Sadwrn 22 Medi 2012 - 7.30pm
Eglwys Sant Mihangel
Cwmdu, ger Crug Hywel

Robin Huw Bowen
Telynor Byd Enwog ar y Delyn Deires

 

Robin Huw BowenBydd Robin yn cyflwyno
cerddoriaeth sy'n gysylltiedig â
bywyd a chyfnod Gwenynen Gwent
(Arglwyddes Llanofer) a Charnhuanawc
(Y Parchedig Thomas Price)

Am docynnau a mwy o wybodaeth cysylltwch â
Gill Madley: 01873 812318 gil@madley.org
Rosie Arkell: 01873 852572 arkellr@tiscali.co.uk
Maureen Probert: 01874 676204 E-mail: mopro@live.com

Tocynnau £10
Aelodau Cymdeithas Gwenynen Gwent a phlant dan 12 oed £7
Gweler Taflen Cyhoeddusrwydd (PDF)

Dwylo ar y Delyn     Gweler Taflen Cyhoeddusrwydd (PDF)     Gweler Rhaglen (PDF)
10yb tan 5yh - Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2012
Canolfan Sant Mihangel, Pen-y-Pound, Y Fenni, NP7 5UD

Diwrnod i ganu'r Delyn

  • Sesiynau ar gyfer y rhai sy’n dechrau o’r dechrau a’r rhai sy’n gwella
  • Dewch â’ch telyn, neu gall telyn fod ar gael o ofyn ymlaen llaw
  • Sesiynau blasu am ddim yn ystod yr egwyl cinio
  • Awyrgylch hamddenol - Tiwtoriaid profiadol
  • Cyngerdd byr gan y tiwtoriaid ar ddiwedd y dydd

Te a choffi am ddim trwy'r dydd
£12 am y diwrnod cyfan gan gynnwys cinio ysgafn (Aelodau £5)
£5 am hanner dydd (Aelodau am ddim)
Plant dan 12 oed hanner pris

Tiwtoriaid

Angharad Evans   Ruth Thomas
     
Angharad Evans   Ruth Thomas

Rhaglen

Bore
9.30 - 10.00 - Cofrestru
10.00 - 10.15 - Croeso
10.15 - 11.15 - Sesiwn Bore Rhan 1
11.15 - 11.30 - Egwyl coffi a the
11.30 - 12.30 - Sesiwn Bore Rhan 2
12.30 - 2.00 - Egwyl cinio Cyfle i roi cynnig ar ganu telynau o wahanol fathau

Prynhawn
2.00 - 3.00 - Sesiwn prynhawn rhan 1
3.00 - 3.15 - Egwyl coffi a the
3.15 - 4.15 - Sesiwn prynhawn rhan 2
4.15 - 4.45 - Cyngerdd

Gall cyfranogwyr benderfynu ymuno â dosbarth y rhai sy’n dechrau neu ddosbarth y rhai sy’n gwella am sesiwn bore neu brynhawn neu am y diwrnod cyfan. Bydd yr amserlen uchod yn cael ei gweithredu gyda'r ddau ddosbarth.

Am fwy o wybodaeth a chofrestru cysylltwch â
Gill Madley 01873 812318 gill@madley.org neu
Robin Davies 01594 563172 robinbronllys@aol.com

Noddir y diwrnod gan Clive Morley Harps Ltd

 
 

 

Dydd Sadwrn 1af o Hydref 2011 - Taith dywysedig "Cwmdu" - Arweinydd Keith Bush.

Dydd Sadwrn 3ydd o Ragfyr 2011 - "Twmpath Dawns" Canolfan Sant Mihangel - Gyda "Gwerinwyr Gwent".

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2011
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Cymdeithas Gwenynen Gwent am
2 o’r gloch prynhawn Sul 22ain o Fai
Neuadd y Pentref
Llanfoist

AGENDA

1. Ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinaol Blynyddol y Gymdeithas 2010
3. Adroddiad yr Ysgrifennydd
4. Adroddiad y Trysorydd
5. Ethol Swyddogion
6. Ethol Aelodau i'r Pwyllgor
7. Unrhyw fater arall

 

Dilynir y cyfarfod am 3 o’r gloch gan

poster"Dyddiadur Morfudd" - Eiry Palfrey

Mae Eiry yn berfformwraig adnabyddus iawn sydd wedi ymddangos ar nifer o raglenni S4C. Mae hi hefyd yn gynhyrchydd teledu ac yn awdures llyfrau i ddysgwyr a phlant. Ysgrifennodd Eiry sioe un fenyw am fywyd Arglwyddes Llanofer o’r enw "Dyddiadur Morfudd" a berfformiwyd ganddi am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988. Mae Morfydd yn forwyn ddychmygol sydd yn gweini ar Arglwyddes Llanofer, ac sydd wedi cofnodi prif ddigwyddiadau bywyd ei meistres yn ei dyddiadur. Ar ddiwrnod angladd ei meistres mae hi'n darllen o'r dyddiadur gan gofio am ei bywyd llawn a chyffrous.

Mynediad am ddim

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2008
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Cymdeithas Gwenynen Gwent am
5 o’r gloch prynhawn Sul 22ain o Fehefin
Neuadd y Pentref
Tre’rgaer

AGENDA

  1. Ymddiheuriadau am absenoldeb
  2. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas 2007
  3. Adroddiad y Cadeirydd
  4. Adroddiad y Trysorydd
  5. Ethol Swyddogion
  6. Ethol Aelodau i’r Pwyllgor
  7. Unrhyw fater arall

Photo: Benjamin Creighton GriffithsDilynir y cyfarfod gan
DDATGANIAD TELYN

gan Benjamin Creighton Griffiths & Eleri Darkins

EGLWYS Y SANTES FAIR
TRE’RGAER

am 6.15 yr hwyr

Tocynnau £5.00
(Di-dâl i Aelodau'r Gymdeithas)

Tocynnau ar gael gan: Abergavenny Music / Gymdeithas Gwenynen Gwent - 01291 690517

Cyfle gwych i glywed y bachgen arbennig hwn mewn datganiad a noddir gan Gymdeithas Gwenynen Gwent ac Ysgol y Delyn

Yn cymryd rhan hefyd, fe fydd Eleri Darkins, a fydd yn canu'r delyn deires, hoff offeryn Gwenynen Gwent. Yn ogystal, fe fydd yn canu'r delyn gyngerdd ac yn cyd-ganu gyda Benjamin mewn perfformiad o 'Tua'r Haul' gan Andres Izmaylov.

Mae Eleri newydd ddychwelyd o Thailand, lle bu'n gyfrifol am sefydlu Ysgol Delyn Tamnak Prathom yn Bangkok.

 

Nos Sadwrn 13eg o Hydref 2007

Yn anffodus mae'n rhaid gohirio'r Twmpath.
Wnewch chi fod mor garedig a rhoi gwybod i un rhywun a oedd yn bwriadu dod os gwelwch yn dda.
7.00 – 10.30yh CANOLFAN Y PRIORDY, Eglwys y Santes Fair, Y FENNI
a a a a
a a
a Click here to see map a a
a a
TWMPATH
Noson o Hwyl ac Adloniant Cymreig
gyda

Gwerinwyr Gwent
(grwp Dawnsio Gwerin poblogaidd)
 
Dewch i gael hwyl gyda ni!
Photo of Gwefinwyr Gwent Raffl  - Bwffe - Bar

Dangosiad Hen ddawnsiau o etifeddiaeth Gymru

Cymerwch ran o dan arweiniad dawnswyr profiadol

 
Tocynnau (yn cynnwys y bwffe)- £12 (£10 aelodau’r Gymdeithas)
ar gael
Abergavenny Music
- rhif ffôn 01873 853394
neu aelodau’r pwyllgor
Drysau'n agored am 7 o'r gloch. Y dawnsio i ddechrau tua 7.30, gyda saib ar gyfer y bwffe tua 8.30.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch:- 01594 563172 neu 01873 840605
 


DYDD SADWRN 28 EBRILL 2007
St Michael’s Centre, Penypound, Abergavenny 
10.00 a.m. - 6.00 p.m.
 

DWYLO AR DELYN

Dysgwch dynnu mêl o’r tannau mân!
Diwrnod cyfan o delyna i’r di-brofiad, i ddechreuwyr hollol a gwrandawyr.
Dosbarthiadau ar delynau celtaidd a theires.
Darperir telynau celtaidd ar eich cyfer

Dysgwch dynnu mêl o’r tannau mân -  Diwrnod cyfan o delyna i’r di-brofiad,
i ddechreuwyr hollol ac i  wrandawyr

Awyrgylch hamddenol  - Athrawon penigamp - Dosbarthiadau yn ôl gallu
Cyflwyniad i hanes y Delyn ynghyd ag Arddangosfa fechan o delynau hanesyddol

Dosbarthiadau
Telyn geltaidd a Thelyn deires

Darperir telynau celtaidd Cyngerdd i gloi’r gweithgareddau am 4.40 p.m.
  
Pris y diwrnod £10.00 i gynnwys tê neu goffi  -  Cyngerdd yn gynwysedig
Os mynner, sicrhewch ginio canol dydd, ond rhaid archebu ymlaen llaw

Manylion pellach:
adlais@btinternet.com (ffon 01291 690517 neu 02920 341462)
neu: 
robinbronllys@aol.com (ffon 01594 563172)

 

SUL Y BLODAU   1 Ebrill 2007
   
2.00–5.00

y prynhawn
Gerddi Llanofer yn agored i’r cyhoedd Y gerddi yn eu hysblander. Dawnsio gwerin, stondinau, tê a thelyn. Mynediad am ddim i aelodau’r Gymdeithas gyda’u carden aelodaeth

5.00 p.m.

CYFARFOD BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS
yn y Theatr Ddarlithio ar y clôs.

  Datganiad ar ddwy delyn deires gan Angharad Evans i ddilyn
   

Rhag -Hysbysiad
Dydd Sadwrn 14 Hydref 2006
CANOLFAN Y PRIORDY, Eglwys y Santes Fair, Y FENNI
 
Ysgol Undydd
Cylch Gwenynen Gwent: Ffrindiau a Dylanwadau
o dan nawdd
Cymdeithas Gwenynen Gwent
Pris: £12 (Aelodau Cymdeithas Gwenynen Gwent) £15 (heb fod yn aelod)
 
Diwrnod a drefnwyd i ddilyn ar lwyddiant yr Ysgol Undydd a gynhaliwyd ym 2002.
9.30
  Tê/Coffi
9.50
  Croeso Cadeirydd y Gymdeithas
10.00
  Sian Rhiannon Williams: Llwydlas a Gwenynen Gwent.
(Yr Arglwyddes Coffin-Greenly a’i pherthynas â chylch Llanofer)
11.15
  Yr Athro Emeritws Prys Morgan: Carnhuanawc a Gwenynen Gwent
12.15
  Egwyl: Awr Ginio. Ni fu modd trefnu pryd canol dydd yn y ganolfan, ond mae digon o lefydd bwyta cyfagos. Cyfle hefyd i weld henebion enwog yr eglwys.
2.00
  Michael Freeman: Yr Het Gymreig
3.15
  Morfydd Owen: Gwenynen Gwent, Maria Jane Williams a’r ‘Ancient National Airs of Gwent and Morganwg’
4.15
  Tê/Coffi
4.45
  Cyngerdd i’r Arglwyddes: Ann Griffiths, Angharad Evans a Benjamin Creighton Griffiths gyda dwy delyn deires a thair telyn bedal
     
Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn gorffen tua 5.30
     
Gan fod nifer y llefydd yn gyfyngedig, cysyllter a Rachael Rogers, 01873 854282 i sicrháu fod llefydd ar gael cyn anfon y bonyn archebu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y siaradwyr

NOS SADWRN GORFFENNAF Y CYNTAF 2006

CANOLFAN Y PRIORDY, Eglwys y Santes Fair, Y FENNI
Click here to see map
TWMPATH
Noson o Hwyl ac Adloniant Cymreig
yng nghwmni HUW ROBERTS (Ffidl-ffadl) a RHIAIN BEBB (Telyn Deires) ynghyd â BETHAN a SION GWILYM ROBERTS
 
Sion Gwilym BWFFE i ddechrau am 7 o’r gloch ynghyd â BAR a RAFFL
 
SGWRS ‘Telyn, Betgwn a Rhif Wyth’
gan ein gwestai gwadd HUW ROBERTS - arbenigwr hyddysg ar y Ddawns Werin ac ar y Wisg Gymreig.
[Fe fydd Huw yn gwisgo gwisg a seiliwyd ar honno a gynlluniwyd gan Wenynen Gwent ar gyfer Gruffydd, telynor Llys Llanofer].
DAWNSIAU LLANOFER gyda BETHAN ROBERTS
STEP Y GLOCSEN gyda SION GWILYM (9 Mlwydd oed)
DYSGU DAWNSIAU LLYS LLANOFER gyda BETHAN
TWMPATH i ddilyn - Dewch â’ch sgidiau dawnsio!
   
TOCYNNAU : Aelodau’r Gymdeithas £9 :Ffrindiau heb fod yn aelodau £10
ar gael o
Amgueddfa’r Fenni (01873 854282)
neu Abergavenny Music (01873 853394)

Archebwch eich tocyn ar fyrder, a chyn y 23ain o Fehefin os oes modd.

DYDD SADWRN yr 17eg o FEHEFIN 2006
Eisteddfod Y Fenni
Theatr Bwrdeisdref Y Fenni
  Gwobr Gwenynen Gwent
 

Fe fydd Cymdeithas Gwenynen Gwent yn cynnig gwobr gwerth £100 i ennillydd y gystadleuaeth offerynnol dan 25.
Ennillydd Gwobr Gwenynen Gwent yn 2005 oedd Benjamin Creighton Griffiths (telyn)


Diweddarwyd y dudalen hon ar 18-01-2024
18 January, 2024