Ganwyd Augusta Waddington yn Ty Uchaf, Llanofer ar Fawrth 21ain, 1802. Hi oedd yr ifancaf o dair merch Benjamin a Georgina Waddington, Saeson a symudodd i Lanofer o swydd Nottingham ym 1792. Fis Rhagfyr 1823, ymbriododd Augusta â Benjamin Hall (1802-1867), o stâd gyfagos Abercarn. Bu Benjamin Hall yn aelod seneddol am 22 mlynedd tan 1859, pan ddyrchafwyd ef i Dy’r Arglwyddi, a’i alw’n Baron Llanover. Daethai’n Gomisiynwr Gwaith fis Gorffennaf 1855, ond nid anghofiodd ei deyrngarwch tuag at Gymru, a brwydrodd yn ddygn er hyrwyddo’i lles diwylliannol. Amdiffynnodd hawl pobl Cymru i gael gwasanaethau crefyddol yn eu hiaith eu hunain, gan fynnu na phenodid unrhyw esgob newydd di-Gymraeg, a sicrhau hefyd, fod yr esgob hwnnw’n byw yng Nghymru.
 
     
 
Ym 1828, derbyniodd Thomas Hopper (1776-1856) wahoddiad Sir Benjamin a’r Arglwyddes Hall i gynllunio ty ar eu cyfer, a gorffenwyd ei adeiladu ym 1837. Eu bwriad oedd troi’u cartref newydd yn ganolfan i’w holl weithgaredddau diwylliannol, gan roi’r pwyslais ar ddiogelu’r iaith Gymraeg, a hyrwyddo diwylliant Cymru.
Llun o Lys Llanofer
   
Click here to see a larger version of the image
 

Bu farw Arglwydd Llanofer ym 1867, ond fe’i goroeswyd ymron i 30 mlynedd gan yr Arglwyddes, na fu farw tan 17 Ionawr, 1896. Cleddir y ddau yn yr un cofadail, ym mynwent eglwys y plwyf, sef Eglwys Sant Bartholomew, Llanofer. Gydol ei hoes, rhoddodd nawdd a chefnogaeth amhrisiadwy i ddiwylliant Cymreig, a gwelir ôl ei dylanwad mewn llawer maes, megis:-

 
     
 

Cerddoriaeth

O ganlyniad i’r ffaith fod cysylltiad y delyn a dawns yn annerbyniol yng ngolwg anghydffurfwyr Cymru, ac yn atgas ganddynt, aethai’r delyn deires draddodiadol yn offeryn prin. Gwenynen Gwent, yn anad neb arall, a’i hachubodd rhag y difodiant llwyr a ddaeth i’w rhan ym mhob gwlad arall Ewropeaidd arall, ac iddi hi mae’r clod a’r diolch am gadwraeth y delyn deires a’i thraddodiadau Cymreig.

  • Cadwai delynorion teulu yn ei chartref yn llys Llanofer. Y deires oedd offeryn y datgeiniaid hyn, a’r cyntaf ohonynt oedd John Wood Jones (18008-1844), a gyflogid yno o 1826 tan ei farwolaeth. Fe’i dilynwyd gan yr enwog Gruffydd (Thomas Griffiths, 1815-1887), a’r telynor rhannol-ddall hwn, yn ei dro, yn cael ei ddilyn gan ei ferch, y weddw ifanc Susanna Berrington Gruffydd-Richards (1864-1952).
  • Roedd gan Gwenynen Gwent ddiddordeb brwd mewn casglu caneuon a cherddoriaeth werin. Anogodd ffrindiau megis Maria Jane Williams, Aberpergwm (1795-1873) i’w dilyn, a honno’n fuddugol yn y gystadleuaeth am y casgliad gorau yn Eisteddfod Cymreigyddion Y Fenni ym 1837. Fe fu’r Arglwyddes Llanofer yn allweddol wrth gyhoeddi’r casglaid hwn ym 1844, dan yr enw ‘Ancient Airs of Gwent and Morgannwg’.
  • Ar gyfer Eisteddfodau Cymreigyddion Y Fenni, fe ddarbwyllai gyfoethogion y sir i gomisiynu telynau teires gan wneuthurwyr megis Bassett Jones, Abraham Jeremiah ac Elias Francis, a’u cynnig fel gwobrau yn y gwahanol gystadlaethau.
  • Derbyniodd llawer o gyfansoddwyr a cherddorion enwog ei gwahoddiad i ymweld â Llanofer. Yn eu plith roedd John Parry (Bardd Alaw, 1776-1851), a’i fab John Orlando Parry (1810-1879), John Thomas (Pencerdd Gwalia, 1826-1913), Brinley Richards (1817-1855) a Joseph Parry (1841-1903).
 
     
 

Eisteddfod

O 1826 ymlaen, pan dalodd ei hymweliad cyntaf â’r Eisteddfod yn Aberhonddu, a dod o dan ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc, 1787-1848), daeth yn eisteddfodwraig frwd. Ym 1834, yn Eisteddfod Caerdydd, fe ennillodd wobr am draethawd (yn Saesneg) ar Fanteision Cadwraeth yr Iaith Gymraeg a’r Wisg Genedlaethol. Y ffug-enw a ddefnyddiodd bryd hynny oedd Gwenynen Gwent, ac wrth yr enw hwnnw y’i hadnabyddid weddill ei hoes. Ei brwdfrydedd, ei hegni, a’i hysbrydoliaeth sicrhaodd lwyddiant Eisteddfodau enwog Cymreigyddion Y Fenni, y cynhaliwyd deg ohonynt rhwng 1834 a 1853.

 
     
 

Gwisg

  • Gwenynen Gwent oedd yn gyfrifol am ddyfeisio’r ‘wisg Gymreig’ fel yr ydym yn ei hadnabod, ac fe ddisgwylid i weithwyr y stâd, tenantiaid a gwesteion fel ei gilydd, ei gwisgo ar bob achlysur.
  • Cyhoeddwyd ei thraethawd buddugol (Eisteddfod Caerdydd, 1834), ynghyd â chyfres o ddarluniau lliw o wisgoedd Cymreig; atgynhyrchwyd y rhain o ddyfrlliwiau a baentiwyd ganddi.
  • Yn Eisteddfod Cymreigydion Y Fenni ym 1853, cynigiodd wobr ar gyfer ‘sicrhau dilysrwydd gwead hen batrymau sgwarog a rhesog Cymru a sicrhau eu cadwraeth’.
  • Tynnodd luniau o’r hyn a farnai’n wisgoedd traddodiadol gwahanol rannau o Gymru, a’u dosbarthu yn ôl ardal. Daeth ei lluniau yn sail i ffurf gydnabyddedig ryngwladol o’r wisg Gymreig, er y credir mai prif bwrpas ei hymdrechion oedd achub diwydiannau gwlân a gwlanen Cymru, yn wyneb bygythiad mewnforion cotwm rhad. O ganlyniad, adeiladodd ffatri wlân ar y stâd ym 1837.
Llun o or-or-or-or wyres Gwenynen Gwent, yn gwisgo gwisg a wnaethpwyd i'w hynafiad, gerllaw telyn deires a wnaethpwyd ar y stād.
     
 

Yr Iaith Gymraeg

Bu’n ddygn yn sicrhau enwau Cymreig i bob adeilad ar y stâd, a mynnai bod ei thenantiaid a’i holl weithwyr yn siarad Cymraeg bob amser. Yn wyneb y ffaith fod sicrhau tenantiaid lleol Cymraeg eu hiaith yn mynd yn fwy-fwy anodd, anogodd Gymry a’r Gymraeg yn famiaith iddynt, i symud o orllewin Cymru i fyw yn Llanofer.

 
     
 

Traddodiadau

  • Adferwyd hen draddodiadau Cymreig, megis y Fari Lwyd a’r Plygain adeg y Nadolig, a’r Calennig ddiwrnod cynta’r flwyddyn newydd.
  • Ddydd Sul y Blodau, fe addurnid pob bedd â thusw o flodau.
  • Galan Mai, fe gynnid y tanau traddodiadol. Noswyl Ifan, fe gesglid uchelwydd, ac fe gynhelid seremonïau arbennig i ddathlu’r Cynhaeaf a Chalan Gaeaf.
  • Dosberthid gwisgoedd Cymreig i’r anghenus, a rhoddid gwisgoedd Cymreig i’r rheiny o blant Ysgol Llanofer a fedrai ddangos eu gwybodaeth o draddodiadau Cymreig.
  • Roedd ei llyfr ‘The First Principles of Good Cookery’ a gyhoeddwyd ym 1867, yn foddion hyrwyddo gweithgaredd ym meysydd coginio, garddio a’r cartref.
 
     
 

Yn ychwanegol:-

  • Bu’n allweddol gyfrifol wrth sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni, a daeth yn un o’i haelodau cynharaf. Noddodd y ‘Welsh Manuscripts Society’ (1862-1874), a thrwy gydweithrediad â Thaliesin Williams, fe brynodd lawysgrifau ei dad, Iolo Morgannwg.
  • Ym 1861 a 1862, golygodd a chyhoeddodd chwe chyfrol ‘Hunangofiant a Gohebiaeth Mrs Delany’.
  • Bu’n hael ei nawdd wrth sefydlu Coleg Llanymddyfri ym 1847.
  • Gwaddolodd ddwy eglwys Bresbyteraidd – capeli Rhyd y Meirch ac Abercarn – lle’r oedd y gwasanaeth i’w chynnal yn Gymraeg.
  • Sefydlodd ddiadell o ddefaid mynyddig duon Cymreig ar dir Parc Llanofer.
 
     
  Am wybodaeth bellach am Wenynen Gwent a’r Diwylliant Cymreig, ymweler â’n tudalennau cyswllt  
Diweddarwyd y dudalen hon ar 15-09-2006